Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Cyfres y Dderwen: Annwyl Smotyn Bach
Lleucu Roberts
ISBN: 9781847710277 (1847710271)Dyddiad Cyhoeddi: Ionawr 2008
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 4/5 Fformat: Clawr Meddal, 194x130 mm, 160 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £5.95 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Llyfr y Mis: Chwefror 2008
Nofel wedi'i gosod yn y dyfodol lle mae'r Brawd Mawr yn cadw llygad ar bopeth, yn dilyn ymgais mam feichiog i ddianc ac ymladd yn erbyn y drefn. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2009.

A novel set in the future in which Big Brother keeps an eye on everything; it tells the tale of a pregnant young woman who attempts to escape and to break free from the regime. Tir na n-Og Award winner 2009.
Dyma olwg arswydus ar dynged ein gwlad. Gosodir y llyfr yn 2089 gyda phytiau o ddyddiadur menyw canol oed yn 2040. Mae yna gysgod Orwellaidd dros y byd sinistr hwn gydag adlais o Gymru hunllefau Islwyn Ffowc Elis. Mae Americana wedi trechu Cymreictod, wedi trechu Prydeindod hyd yn oed. Gwelwn y Gymraeg yn colli tir ac yna'n diflannu’n llwyr dan warchae'r ‘Hi’ hollbresennol. Er y drefn lem a’r rheolau newydd, mae yna griw bychan yn ceisio dal eu gafael ar eu diwylliant a’u hiaith.

Mae’r dyddiadur teimladwy yn taro ar yr angen cynhenid sydd ynom am barhad i’n cenedl a’n hiaith, ynghyd â’r angen naturiol i atgenhedlu i sicrhau parhad dynolryw. Clywn am griw o fenywod yn mynd ati i gynnal ysgol nos gudd. Ni chymhara’r ofn sydd arnynt o gael y gosb eithaf os cânt eu dal gyda’r ofn o golli iaith a llenyddiaeth eu gwlad. Siarad â’i baban yn ei chroth a wna’r prif gymeriad wrth ysgrifennu ei dyddiadur. Llais tyner mam yn llawn ofn am ddyfodol ei phlentyn mewn gwlad sydd yn prysur ddiflannu’n llwyr. Gofynnir cwestiwn iasol – A fydd yna adeg pan fydd y byd wedi dirywio cymaint fel y byddai’n well pe na bai ei baban yn cael ei eni?

Diddorol nodi mai Hi ac nid ‘Ef’ yw’r Brawd Mawr hollbresennol sydd yn dal ei gafael. Criw o fenywod sydd yn mynd ati i gynnal yr ysgol gudd er mwyn ceisio sicrhau goroesiad y Gymraeg. Clywn am fam ac am fam-yng-nghyfraith y prif gymeriad a’u barn gadarn. Menyw ydyw’r prif gymeriad sydd yn peryglu ei bywyd ei hun, ei phlentyn a’i phriodas. Stori'r mamau ydy hon yn y bôn. Y menywod yw’r cymeriadau sy’n goroesi ac yn dioddef. Cymhara’r prif gymeriad ei hun (ac yn wir y Cymry oll) â Gwenllian, ferch Llywelyn - ‘Fe’i rheibiwyd o’i hiaith a’i hanes a’i hunaniaeth . . . Cenedl a Wenllianwyd ydyn ni bellach.’

Dyma olwg ddu o’r dyfodol, ond darlun sydd yn ein herio. Brithir y nofel â fflachiadau iasol o gyfarwydd. Fe glywn am y profion DNA, y CCTV, y globaleiddio didostur sydd yn sicr yn canu cloch. Nid ffuglen lwyr ydyw felly am fod y nofel yn sôn am bethau sydd dim ond ychydig gamau yn unig i ffwrdd o’n bywydau ni heddiw – ‘“Couldn’t you have done somefing?” Dwi’n cofio gofyn yr un peth i mam ynghylch y Rhyfeloedd Olew . . . Doedd neb yn gweiddi’n ddigon uchel.’

Darogan y mae Lleucu Roberts. Mae hi’n pwyntio bys gan ddatgan os na wnawn ni ‘weiddi’n ddigon uchel’, ein plant fydd y rhai nesaf i ddioddef.

Lois Barrar

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Lleucu Roberts yn byw yn Rhostryfan ac yn hanu o ardal Bow Street, Ceredigion. Mae'n sgriptio ar gyfer y radio a'r theledu. Hi yw awdur y nofel Iesu Tirion a Troi Clust Fyddar.
Gwybodaeth Bellach:
Yn y flwyddyn 2040 mae Cymru o dan warchae'r Brawd Mawr ac mae'r Gymraeg yn prysur ddiflannu o dan ei reolaeth hollbresennol. Ond yn y gogledd mae criw bach o bobl yn ceisio arbed eu treftadaeth a'u dyfodol.

Mam ofnus yw Llio, sy'n siarad a'r "Smotyn Bach" yn ei chroth. Trwy gyfrwng ei dyddiadur cawn gipolwg ar y Gymru newydd ac ar y tensiynau sydd rhyngddi hi a'i gwr, Sion. Mae popeth sydd o bwys iddi o dan fygythiad, felly mae'n gweithredu ar frys cyn iddyn nhw ddiflannu'n llwyr. Ond fe fydd hynny'n rhoi ei bywyd hi a "Smotyn Bach" yn y fantol.


Ymgais Newydd i Ragweld ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’

Wedi ymgais Islwyn Ffowc Elis i ragweld dyfodol Cymru yn ei nofel Wythnos yng Nghymru Fydd, mae awdures brofiadol arall wedi mynd ati i greu darlun meddylgar a chlyfar o Gymru’r dyfodol. Yn ei thrydedd nofel o’r enw Annwyl Smotyn Bach mae’r awdures Lleucu Roberts wedi creu darlun o Gymru yn 2040 a’r ‘Snowdonia Population Shelter’ yn 2089, ac mae’n cyfadde ei fod yn ddarlun tywyll. Erbyn canol y ganrif mae’r Brawd Mawr yn cadw golwg ar bopeth a dim ond mewn ysgolion cudd y mae’r iaith Gymraeg yn cael ei throsglwyddo a’i defnyddio.

Meddai Lleucu: “Er mai darlun tywyll sydd ynddi o Gymru’r dyfodol, credaf fod digon o ewyllys gennym fel Cymry i sicrhau na ddaw’n wir. Gobeithio fod digon ynddi i wneud i ni gnoi cil dros beth allai ddigwydd, ac yn wir, beth sydd eisoes yn bodoli: ychydig iawn o newid yn ei hanfod fu angen ar y darlun o Gymru heddiw, dim ond ymestyn tamaid bach ar linyn y dychymyg a dilyn trywydd canlyniadau posib.”

Yn y nofel mae pobl yn gyrru cerbydau hydrogen, mae pawb yn cael eu monitrio’n ddi-baid, a does fawr neb yn darllen llyfrau. Ond yr hyn sy’n cynnal y nofel Annwyl Smotyn Bach yw’r dyddiadur y mae’r prif gymeriad yn ei sgwennu i’r plentyn yn ei chroth yn 2040. Ac er ceisio cuddio’i theimladau a’i chynlluniau, mae pob ymgais i geisio arbed rhywfaint ar ei hunaniaeth, ei diwylliant a’i hiaith yn wynebu rhwystrau.
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Llinyn Trôns
Bethan Gwanas
£4.95
 
Prynwch
Ffyliaid a Phethau ...
Daniel Morden
£2.25
 
Prynwch
Rara Avis
Manon Rhys
£8.99
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Dim Rwan Na Nawr: Hanes ...
Tudur Owen
£6.99
 
Prynwch
Saesneg
Revenant
Tristan Hughes
£9.99
 
Prynwch
Plant
Cyfres Catherine Barr: ...
Catherine Barr
£6.99
 
Prynwch