Gwybodaeth Lyfryddol |
Cyfres yr Onnen: Diffodd y Sêr Haf Llewelyn
|
ISBN: 9781847716972 (1847716970)Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 2017
Cyhoeddwr: Y LolfaAddas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2/3
Fformat: Clawr Meddal, 195x128 mm, 128 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£5.95
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Nofel hanesyddol yw Diffodd y Sêr. Mae'r stori wedi'i seilio ar hanes Hedd Wyn ac mae'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gefndir i'r digwyddiadau. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2014.
Ellis has to become a soldier, like dozens of other young men from the Trawsfynydd area, during the First World War. But Anni looks up at the stars each night and wishes that her brother could come home to Yr Ysgwrn, especially after seeing the terrible effect the fighting has had on the father of her best friend. A special prize is waiting for Ellis if he returns home safely ...
|
Dyma nofel sy’n werth ei darllen. Yn gefndir iddi mae hanes Hedd Wyn, y bardd-filwr a syrthiodd ar Gefnen Pilckem ym mrwydr Passchendaele yn Fflandrys ym 1917 lle collodd bron i chwarter miliwn o filwyr eu bywydau.
Adroddir yr hanes trwy lygad Anni, un o chwiorydd Hedd Wyn, ac yn ganolog i’r stori mae ei hanesion hi a Lora, ei ffrind pennaf. Er gwaetha cysgod y Rhyfel Mawr maent hwy yn eu diniweidrwydd yn dygymod â bywyd bob dydd yng Nghwm Prysor, gan rannu cyfrinachau a phrofiadau carwriaethol merched ifanc yn eu harddegau.
Nid tasg hawdd i awdur yw ysgrifennu am un o ddigwyddiadau mwyaf erchyll dynoliaeth, ond fe lwyddodd Haf Llewelyn. Nid yw’n celu dim. Saethwyd tad Lora yn ei wyneb a’i anafu’n ddifrifol ym mrwydr Coed Mametz ac y mae darllen y llythyr sy’n disgrifio’r ymladd a’r amodau byw yn y ffosydd du – pwll dyfnaf uffern – yn ddirdynnol ac yn ddigon i fferru’r gwaed. Ond ochr yn ochr â’r disgrifiadau ysgytwol mae yma ysgrifennu sensitif a dwys, a llwydda’r awdur i ddod ag elfennau o hapusrwydd a pheth ysgafnder i fywydau’r cymeriadau.
 thema rhyfel ar faes llafur ein hysgolion, bydd y nofel hon yn ddeunydd darllen atodol penigamp.
Menna Lloyd Williams
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Bywgraffiad Awdur: Mae Haf Llewelyn yn ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion, ac wedi gweithio fel athrawes gynradd. Mae’n byw yn Llanuwchllyn, ger y Bala. Gwobrau: Enillydd Tir na nOg 2014 Cymraeg (uwchradd) / Winner of Welsh Tir na nOg 2014 (secondary) |
|
|
|
Diweddarwyd ar 10 Mehefin 2014
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|