Dynion wedi eu clwyfo’n ddwfn yw prif gymeriadau nofel ddiweddaraf Elfyn Pritchard, Ar Ddannedd y Plant.
Newydd ymddeol a dychwelyd i Gymru y mae Trefor, wedi gyrfa lwyddiannus iawn fel newyddiadurwr yn Llundain. Gadael ei gartref wnaeth Meilir hefyd, a mynychu ysgol yng nghyffiniau’r Amwythig, gan aros yn yr ardal honno am dros ddeng mlynedd ar hugain. Hiraetha Meilir am Gymru’n aml wrth sefyllian ar Welsh Bridge y dref honno. Efallai fod y ddau yn perthyn o bell ond yr hyn sy’n eu clymu yw creithiau eu magwraeth. Hanes eu perthynas yw calon y nofel hon, ynghyd â'r daith at galon y gwir ym mywydau’r ddau.
Ond os mai dynion yw’r prif gymeriadau, mae rôl y ddwy fam yn allweddol. Methu cydymdeimlo nag uniaethu efo gwewyr Trefor y mae Mrs Pugh, gan ddewis peidio ag ymyrryd tan y diwedd. Y mae perthynas Meilir Puw a’i fam ef, ar y llaw arall, yn glawstroffobig o agos, a’i deimlad o frad wrth glywed am y babi newydd yn ingol. A’r tadau? Daw pwysau gan un ohonynt i lwyddo, a rhoi’r bai ar gam a wna’r llall. Wrth ddarllen y nofel hon, daw geiriau’r bardd Phillip Larkin am rieni i gof, ac ni ellir anghytuno â hwy y tro hwn!
Cyfeirir sawl tro yn y nofel at wraig arall, sef y seicoddadansoddwraig Alice Miller a’i chyfrol, The Drama of the Gifted Child. Mae gwaith Miller yn amlwg wedi dylanwadu ar yr awdur ac fe groniclir yn glir yn y nofel pa mor andwyol y gall eu magwraeth fod i blant, nid yn unig yn ystod eu plentyndod, ond yn fwy negyddol byth am weddill eu bywydau. Oes yna waredigaeth bosib?
Fel y gellid disgwyl gan Elfyn Pritchard, mae iaith y gyfrol hon yn gyfoethog a’r diweddglo’r tro hwn yn awgrymog. Ydy gwaed yn dewach na dŵr? Pugh ’ta Puw fydd yn ennill yn y diwedd?
Janet Roberts
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Bywgraffiad Awdur: Magwyd Elfyn Pritchard yn Edeirnion, ond mae’n byw bellach ym Mhenllyn ers blynyddoedd. Roedd yn athro, prifathro ac ymgynghorydd addysg gynradd yng Ngwynedd hyd at ei ymddeoliad.
Enillodd y Fedal Ryddiaith am ei gyfrol Trwy’r Tywyllwch yn 2001 a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2003 am ei nofel Pan Ddaw’r Dydd. Yn 2003 dyfarnwyd iddo Dlws Coffa Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant. Gwybodaeth Bellach: Mae greddf y newyddiadurwr yn profi’n gryfach na’r awydd am ymddeoliad tawel pan ddaw Trefor Puw ar draws carreg fedd anghyffredin wrth chwilio am hanes ei deulu. Mae’r reddf honno’n ei arwain i ganol cymhlethdod bywyd Meilir Parry, gŵr y mae ei orffennol trasig wedi effeithio’n fawr arno. Ond ai cymhellion anhunanol sydd gan y newyddiadurwr wrth iddo fynd ar drywydd stori Meilir, neu a yw ei orffennol yntau yn dylanwadu arno? |