Hafan Llyfrau Basged Man Talu Fy Nghyfrif Cymorth Cynigion Arbennig Cysylltu   English  
 
Dod o Hyd i Siop Lyfrau
 
Mewngofnodi
 
Cofrestru
Gwybodaeth Lyfryddol
Dafydd Hywel - Hunangofiant Alff Garnant
Dafydd Hywel, Alun Wyn Bevan
ISBN: 9781848515376 (1848515375)Dyddiad Cyhoeddi: Tachwedd 2013
Cyhoeddwr: Gomer@Lolfa
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 208 tudalen Iaith: Cymraeg Ar gael Ein Pris: £9.99 
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
 
Ysgrifennwch Adolygiad Cwsmer
Hunangofiant di-flewyn ar dafod y cymeriad brith, lliwgar a'r actor talentog Dafydd Hywel.

The autobiography of the outspoken, colourful character and talented actor Dafydd Hywel.
Dyn oedd â thipyn o feddwl o’i farn ei hun oedd Alf Garnett y sitcom Till Death Us Do Part, yn adweithiol a rhagfarnllyd. I’r graddau ei fod yntau hefyd yn hoff o gael dweud ei ddweud, gesyd Dafydd Hywel ei hun yn yr un mowld â’r cymeriad crintachlyd hwnnw a bortreadwyd gan Warren Mitchell.

Llanw a thrai yw bywyd, ac mae’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau i’w cael yn y gyfrol hon. Magwyd Dafydd Hywel yng Nglanaman – nefoedd ar y ddaear i blentyn yn y pumdegau, a rhestrir pob siop a charreg yn y pentref, a phob person oedd yn byw yno. Mae ei deyrnged i’w fam yn un gynnes, ac mae’r mab yn galon i gyd wrth gofio’i chyflwr bregus ar ddiwedd ei hoes, yn dioddef o glefyd Alzheimer. Mae’n canmol ei dad, ei ffrind gorau a’r un a’i cyflwynodd i’r campau y bu’n eu dilyn weddill ei oes – rygbi, criced a bocsio. Bu farw ei dad o ganser yn 85 oed: dyma’r diwrnod y dechreuodd Dafydd Hywel beidio â chredu bod Duw i gael.

Adroddir nifer o hanesion difyr am yrfa broffesiynol yr awdur, gan restru’r dramâu a’r sioeau sydd wedi aros yn ei gof, er enghraifft 'The Mouse and the Woman', stori fer gan Dylan Thomas a addaswyd ar gyfer y sgrin fawr gan Vincent Kane a Karl Francis. Sonnir hefyd am Yr Alcoholig Llon, a sut y daeth Alcoholics Anonymous i ddangos y ffilm drosodd a throsodd yn eu sesiynau, er budd mawr i’r rheini oedd yn chwilio am ryddhad o afael y cyffur. Ar gynffon y rhestr gynyrchiadau manteisir ar y cyfle i ddatgan barn am gyflwr y byd ffilmiau cyfoes yng Nghymru.

Ar lefel bersonol, bu Dafydd Hywel yn weithgar iawn yn yr ymgyrch i sefydlu ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd. Roedd cynllun ar droed i fynnu bod ei blant yn mynychu ysgolion cynradd gwahanol, y naill yn agos i’r cartref a’r llall bellter mawr i ffwrdd. Wedi ymgyrch filain caniatawyd lle i’r ddau yn Ysgol Coed-y-gof. Adroddir stori ingol Aber-fan yma hefyd, a cholli'r 144, gan gynnwys 116 o blant. Tynnir sylw at yr anghyfiawnder a fu wrth ddosbarthu’r arian a gasglwyd i gefnogi’r gymuned: o ddefnyddio £150,000 o arian Cronfa Aber-fan i glirio’r tip a'i wneud yn ddiogel yn hytrach nag i helpu’r teuluoedd dioddefus.

Nid yw’n osgoi nodi’r troeon tywyll yn ei fywyd – ei anffyddlondeb i Betty, ei wraig, ei gyfnodau o yfed trwm, ei iselder, a’i drafferthion ariannol. Telir teyrnged gynnes i nifer o ffrindiau agos a fu’n gefn iddo drwy’r adegau anodd hyn pan oedd, yn iaith Dyffryn Aman, ‘wedi mynd off y raels’.

Cyflwynir yr hunangofiant yn nhafodiaith hyfryd Dyffryn Aman. Mae’n gyfrol sy’n adrodd stori bywyd, y gwych a’r gwachul. Er bod rhywbeth yn y safiad na fydd at ddant pawb, bydd yn sicr o ddiddanu’r rhai hynny sy’n hoffi ambell druth a thipyn o dantro.

Rhiannon Ifans

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Diweddarwyd ar 21 Tachwedd 2013
Actor yn ddi-flewyn ar dafod

Ar ôl perfformio ar y llwyfan a’r sgrin am bron hanner canrif, mae Dafydd Hywel yn un o’n hactorion mwyaf adnabyddus.

Mae’r actor 67 oed, sydd wedi serennu yn Pobol y Cwm, Y Pris, Pen Talar a Stella (cyfres Ruth Jones ar Sky One), ar fin rhyddhau ei hunangofiant eithriadol o onest, Dafydd Hywel: Hunangofiant Alff Garnant (Gwasg Gomer).

Yn feistr ar y llwyfan a’r sgrin, dyma Dafydd Hywel yn cyfadde’r cwbl am ei fywyd: ei yrfa, ei farn am S4C, addysg Gymraeg, y prif ddylanwadau yn ei fywyd a’i amser yn ddibynnol ar alcohol.

Bob amser yn rhywun â syniadau cryf, gallwch ddisgwyl mwy o hynny yn ei hunangofiant. “Roedd yn brofiad emosiynol iawn. Dim ond wedi i fi ddechrau ysgrifennu y sylweddolais pa mor ddylanwadol y bu pobl yn fy mywyd, a chymaint dw i’n colli’r rheiny dw i wedi eu colli. Dw i wedi bod mor onest â phosibl ac roedd hynny, ar adegau, yn anghyfforddus iawn,” meddai Dafydd.

Ychwanegodd: “Mae pobl wedi gofyn pam y penderfynais i adrodd fy stori, a’r ateb gonest yw fy mod yn teimlo bod gen i rywbeth i’w ddweud. Dw i wedi profi cymaint o emosiynau yn fy mywyd, rhai uchafbwyntiau a rhai cyfnodau isel iawn, iawn y galla’ i ond feio fy hun amdanyn nhw.”

Mae’r llyfr yn ein tywys o’i blentyndod cynnar yng Ngarnant, Cwm Aman, o’r caeau rygbi a chriced, i’w yrfa ar y llwyfan a’r sgrin. Mae’n achub ar y cyfle hefyd i leisio ei farn ar gyflwr teledu Cymraeg ar hyn o bryd: “Pan ddechreuais i, roedd ganddyn nhw bobl dalentog a chreadigol iawn a oedd yn gwybod beth roedden nhw’n ei wneud - pobl fel Dilwyn Jones, Will Aaron, Paul Turner, John Hefin a Carl Francis, a oedd yn deall eu crefft. Nid yw’r bobl sy’n rheoli pethau heddiw wir yn gwybod sut mae uniaethu â Chymru a’i phobl. Beth mae Dr Who a Casualty yn eu golygu i bobl Cymru, mewn gwirionedd?” medd Dafydd sy’n byw yng Nghapel Hendre, Rhydaman erbyn hyn.

“Dw i’n credu mai un o’r problemau mwyaf yw’r ffaith nad yw’r Cymry yn gwybod pa mor dda ydyn nhw. Mae Y Gwyll, er enghraifft, yn ddarn neilltuol o waith ac mae’n dangos y gallwn ni gystadlu gyda’r gorau.”

Mae’r Cymro brwd wedi serennu mewn nifer o ffilmiau Cymraeg a Saesneg gan gynnwys Yr Alcoholig Llon, Burton: Y Gyfrinach, Off to Philadelphia in the Morning a Chwedl Nadolig. Yn y llyfr mae Dafydd yn siarad am y dirywiad ym maes ffilm a drama trwy gyfrwng y Gymraeg: “A dweud y gwir, mae’n torri fy nghalon, ond gyda lwc, o dan drefn newydd S4C, y bydd y ‘siwts’ yn defnyddio peth o’u synnwyr cyffredin a sicrhau bod ffilm a drama yn chwarae rhan amlwg yn rhaglenni’r sianel. Nid pawb sydd eisiau gwylio rygbi a phêl-droed fore, ddydd a nos!”
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
 
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
Writers of Wales: Gwenlyn ...
Roger Owen
£7.99
 
Prynwch
Never Mind the Bluebirds ...
David Collins
£6.99
 
Prynwch
Cyfres y Cewri: 10. Be ...
Dafydd Wigley
£9.95
 
Prynwch
Llyfr y Mis
Cymraeg
Rhwng Dau Olau
Ifor ap Glyn
£7.90
 
Prynwch
Saesneg
Melting Pot, The - World ...
Maggie Ogunbanwo
£9.99
 
Prynwch
Plant
Cyfres Cyw: Bolgi a'r ...
Anni Llŷn
£3.95
 
Prynwch