Gwybodaeth Lyfryddol |
Gryffalo, Y Julia Donaldson
|
ISBN: 9781855963443 (1855963442)Dyddiad Cyhoeddi: Mai 1999
Cyhoeddwr: Dref WenDarluniwyd gan Axel SchefflerAddaswyd/Cyfieithwyd gan Gwynne Williams.Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
Fformat: Clawr Meddal, 215x270 mm, 32 tudalen
Iaith: Cymraeg
Allan o brint Ein Pris:
£5.99
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Stori liwgar a difyr ar ffurf rhigymau am lygoden fach gyfrwys yn llwyddo i osgoi cael ei bwyta gan greaduriaid y goedwig; i blant 5-8 oed.
A colourful and amusing story in verse form about a cunning little mouse which succeeds in avoiding being eaten by forest creatures; for 5-8 year old children.
|
Dyma stori fach hyfryd un ddoniol, clyfar a bywiog. Cawn hanes llygoden fach llawn cymeriad yn mynd am dro ir goedwig, ac yn gyfrwys iawn yn llwyddo i osgoi cael ei bwyta gan lwynog, tylluan a neidr; mae'n troir byrddau'n llwyr ac yn annisgwyl iawn pan ddaw wyneb yn wyneb âr gryffalo ei hun.
Maer cymysgu hwn rhwng anifeiliaid go-iawn (gan efallai ysgogi trafodaeth bosibl ynghylch bwydydd gwahanol anifeiliaid) ar gryffalo dychmygol yn ddigon credadwy, ac mae hin stori ddifyr tu hwnt.
Ceir yma luniau mawr a lliwgar, ac rwyn arbennig o hoff or olwg ar wynebaur anifeiliaid maent yn stori ynddynt eu hunain! Gan fod y lluniau yn llenwir tudalennau nid oes ormod o ysgrifennu i ddychryn y rhai syn dechrau darllen ar eu pennau eu hunain. Hefyd, oherwydd fod gan y stori adeiladwaith debyg ir chwedlau traddodiadol ir plant (megis y tri mochyn bach ac Elen Benfelen), ceir cryn dipyn o ailadrodd yr un strwythur wrth gyfarfod cymeriadau gwahanol.
Ac maer addasiad Cymraeg yn benigamp y cwpledi odledig yn llyfn a llithrig ac yn chwipior stori yn ei blaen yn fywiog. Dotiais yn aml at y dweud, or llwynog yn byw yn y cwtsh dan staer, ir sbageti-tylluan-bolanê ir brechdan blwmin Gryffalo.
Llyfr gwych!
Gwenllïan Dafydd
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
|
|
Llyfr Llafar yn rhad ac am ddim.
I wrando ar y llyfr ar-lein, cliciwch YMA |
Diweddarwyd ar 24 Mai 2012
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|