Fel fi, mae’n ddigon posib mai’r tro diwethaf i chi ddarllen y nofel hon oedd dan gyfarwyddyd athro neu athrawes, gan orfod dadansoddi pob cymal a brawddeg (a cheisio dysgu rhai o’r dyfyniadau mwyaf ‘arwyddocaol’ ar gof cyn arholiad neu brawf!) yn ogystal â gorfod ysgrifennu crynodeb o bob pennod yn waith cartref. Dydw i ddim yn cwestiynu am eiliad y drefn o astudio clasuron ein llên fel rhan o faes llafur cyrsiau Cymraeg, ond sgwn i pa mor barod ydyn ni wedyn i droi’n ôl at y cyfrolau hyn o’n gwirfodd a’u mwynhau yn ein hamser hamdden?
Gyda chyfrol feirniadol Menna Baines ar fywyd a gwaith yr awdur Caradog Prichard wedi’i gosod ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn eleni, dyma gais yn dod i mi bori rhwng cloriau’r nofel unwaith yn rhagor. A dyma ganfod, er fy ngwaethaf bron, bod yna rywbeth cysurus, braf am ddychwelyd at y nofel anghysurus, hegar hon. Crwydro hyd y Lôn Bost hyd at Ben Llyn Du y mae’r bachgen o hyd, ond y tro yma mae mwy o bleser i’w gael os ‘pleser’ yw’r gair wrth ei ddilyn tua’i dranc, ac mae darluniau a llythrennu trawiadol Ruth Jên yn gymorth i’n tywys ymhellach i mewn i’w fyd o.
Ac rydw i’n synhwyro, rywsut, bod mwy i’w weld y tro yma mae’r manylion fel petaen nhw’n glynu yn y cof ac yn canu cloch yn nes ymlaen, a phob pennod drist ar hyd y daith wedi’u saernïo yn daclus ac yn grwn. O ddarllen y nofel ar ei hyd, yn hytrach na fesul gwers, mae’r undod yn dod yn amlwg a’r llif yn cyflymu wrth inni glosio tuag at y diwedd anorfod.
I mi, mae hi’n nofel dristach nag oedd hi ddeng mlynedd yn ôl hefyd, a’r tywyllwch yn fy llyncu’n fwy cyfan gwbl rywsut. Pry cop ar drugaredd ei we yw’r bachgen, yn union fel hwnnw sy’n ceisio dianc drwy ffenest ar ddechrau’r bedwaredd bennod ar ddeg. ‘Dyna lle oedd o’n cerddad ar hyd y gwydyr . . . cerddad am dipyn bach a cael codwm, a mynd yn ei ôl a cerddad a cael codwm wedyn. Ond oedd o byth yn syrthio ar lawr achos oedd gwe pry cop run fath a lastig yn ei ddal o’n hongian pan oedd o’n cael codwm, a dyna sud oedd o’n medru dŵad yn ei ôl ar ffenast bob tro.’ Ond breuo y mae’r lastig gyda phob ergyd a ddaw i ran y bachgen, hyd nes nad oes dim i’w godi wedi’r codwm olaf.
Mae ’na un peth yn sicr, wna i ddim cadw draw cyhyd eto.
Nia Peris
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|