Blodeugerdd o ryddiaith syn rhychwantur ugeinfed ganrif ywr gyfrol hon, ar llinyn cyswllt syn rhedeg trwyr gyfrol yw fod gan bob un or awduron rhyw gysylltiad â Sir Benfro. Fei cyhoeddwyd yn 2000, yn ddrych o draddodiad rhyddiaith syn ymestyn yn ôl i chwedlau cynnar y Mabinogi a bucheddaur saint.
Y mae rhagymadrodd y golygydd, Eirwyn George, yn amheuthun. Ynddo maen bwrw ei olwg yn drylwyr a dysgedig ond eto mewn arddull ddarllenadwy iawn dros draddodiad rhyddiaith Sir Benfro hyd ddechraur ugeinfed ganrif. Wrth ddarllen y cyflwyniad hwn maer darllenydd yn cael y teimlad ei fod yn ddiogel yn nwylo rhywun syn nabod ei fochyn. Maen gwaur cyfan yn stori feistrolgar; yn ddarlun cynhwysfawr, ond cryno.
Yn y flodeugerdd ei hun y mae llais yr enwau cyfarwydd Waldo, D.J., T. E. Nicholas, Dewi Emrys ac ati. Cyfraniadaur to hŷn yma yw hanner cyntaf y gyfrol syn caniatáu i ni glywed llais Sir Benfro. Maen nhwn tynnu ar eu profiad ou broydd i raddau helaeth yn y darnau ysgrifol ac atgofus, ac maer ymdeimlad o le, neur dafodiaith neur adnabyddiaeth o gymeriadau yn eu cyfraniadau, yn adlewyrchiad hyfryd ou cyfnod.
Y mae eu hiaith yn gyfoethog yn henffasiwn o urddasol, ydi, ond yn fyrlymus o hiwmor, o ddisgrifiadau cynnil ac o ymadroddion pert. Dyna i chir ffordd mae Dewi Emrys yn disgrifioi gi hoff, Jac, yn rhedeg trwyr grug ar rhedyn fel cwthwm o wynt chwerthinog a rhialtwch ei gyfarth fel eco rhywbeth a gollwyd pan gysgodd y graig'. Pethau hyfryd fel yna oedd yn rhoi pleser i mi wrth bori trwy hanner cyntaf y gyfrol.
Ond wedyn, maer gyfrol yn newid cywair. Y stori fer yw ffurf ail hanner y gyfrol, wrth symud ymlaen at waith awduron iau. Yma, nid oes gan y deunydd, ar y cyfan, fawr o gyswllt uniongyrchol âr sir. Efallai fod hynnyn hollol fwriadol. Wedir cwbwl, gallech ddadlau nad cyfrol am Sir Benfro yw hon i fod. Gallech ddadlau ei bod yn ddiddorol cael y gwrthgyferbyniad rhwng y ffeithiol a ffrwyth y dychymyg creadigol. Digon gwir. Ond eto, o ran y cyfanwaith, nid ywr rhan hon yn teimlo fel petai hi wedi ei nyddun dwt ir gweddill. Efallai y byddai cadwr llinyn cyswllt â Sir Benfro yn themâur straeon wedi rhoi mwy o unoliaeth ir cyfan? Neu sicrhau mwy o amrywiaeth ffurfiau yn niwedd y gyfrol i gadwr ddysgl yn wastad? O ran ymdriniaeth ac arddull, fe ddywedwn i hefyd fod yr ail hanner yn teimlo'n fwy anwastad; nid yw pob darn yn taro deuddeg i mi.
Ond dyna ni blodeugerdd ywr gyfrol. Maen estyn yr haul ac mae rhywbeth ynddi i gynhesu calon unrhyw ddarllenydd.
Cathryn Gwynn
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|