Eich basged
£43.97
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
Gwybodaeth Lyfryddol |
Ysgrifau Beirniadol XXXI |
ISBN: 9781904554172 (1904554172)Dyddiad Cyhoeddi: Chwefror 2013
Cyhoeddwr: Gwasg GeeGolygwyd gan Tudur Hallam, Angharad Price
Fformat: Clawr Meddal, 215x140 mm, 224 tudalen
Iaith: Cymraeg
Ar gael Ein Pris:
£15.00
|
|
Does dim Adolygiad Cwsmer i'r teitl hwn.
|
|
Y gyfrol gyntaf o Ysgrifau Beirniadol dan olygyddiaeth Tudur Hallam ac Angharad Price. Mae hon, fel ei rhagflaenwyr, yn cynnwys amrywiaeth o erthyglau beirniadol sydd yn cynnig golwg newydd a ffres ar lenyddiaeth a diwylliant Cymru a thu hwnt.
The latest volume in a scholarly series, comprising discussion on diverse topics relating to Welsh literature.
|
Mae golygyddion y gyfrol hon yn ein gwahodd i deithio ar ‘siwrnai ddeallusol’, gyda’r cyfranwyr yn rhannu â ni’r darllenwyr ‘y math o ysgrifau beirniadol a all oleuo’r meddwl drwy bob math o dwneli dyrys.’
Taith mewn trên llenyddol sydd yn ein haros, felly, a honno'n ymestyn o’r chweched ganrif i’r oes hon.
Mae’r gyffelybiaeth yn ein hatgoffa o Adroddiad Beeching a gyhoeddwyd hanner canrif yn ôl. Adroddiad oedd hwnnw achosodd anfadwaith mawr yng Nghymru wrth i gynifer o orsafoedd lleol gael eu cau. Ryw ddwy flynedd ar ôl y gyflafan hon (1965) y gwelodd Ysgrifau Beirniadol olau dydd am y tro cyntaf ac mae’n destun gorfoledd fod y gyfres ar y cledrau o hyd.
Y gyfrol ddiwethaf yw’r unfed ar ddeg ar hugain yn y gyfres, ac fe gynhwysir ynddi saith o erthyglau ac un cyfweliad sy’n cynnig golwg newydd ar lenyddiaeth a diwylliant Cymru.
Mae rhai o’r cyfranwyr yn enwau cyfarwydd, yn arbennig Marged Haycock a Peredur Lynch. Amharchus, efallai, fyddai cyfeirio atynt fel yr hen do o ysgolheigion Cymraeg. Ond fe wneir hynny oherwydd bod y golygyddion wedi gwneud ymdrech arbennig i gynnwys cyfraniadau gan enwau newydd fel Hannah Sams ac Adam Pearce – maen nhw'n enwau newydd i mi, beth bynnag.
Mae’r pynciau a drafodir yn y gyfrol yn cynnwys:
• Cymharu llythyrau Saunders Lewis a Kate Roberts gyda gohebiaeth George Sand a Gustave Flauberts – Manon Mathias.
• Cyflwyno ‘Marwnad Owain ab Urien’ mewn dull eithriadol o ddifyr i fyfyrwyr chweched dosbarth – Marged Haycock.
• Trafod y syniad o ’hanfod’ mewn llenyddiaeth Gymraeg gan roi sylw arbennig i ddatblygiad tri bardd cyfoes (Eurig Salisbury, Hywel Griffiths ac Aneirin Karadog) – Tudur Hallam.
• Archwilio’r ‘gofod hybrid’ yn un o gerddi Dafydd ap Gwilym. Trafodir y berthynas gymhleth rhwng Cymry â Saeson yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar ddeg trwy ddadansoddi’r cywydd ‘Trafferth mewn tafarn’ – Angharad Naylor.
• Cymharu Dic Jones a’i farddoniaeth gymdeithasol ochr yn ochr â swydd y poet laureate Seisnig – Peredur Lynch. Nid unig mae yn yr erthygl hon ddyfnderoedd o ddysg a gwybodaeth ond mae yma hefyd ddogn helaeth o hiwmor iach. Yr un mor werthfawr yw cael fel atodiad i’r erthygl adolygiad gorfoleddus Saunders Lewis o’r gyfrol Cerddi Alun Cilie.
• Edrych ar rôl genedlaetholgar y cyfieithiadau Saesneg o waith Daniel Owen a hynny gan Adam Pearce sydd ei hun wedi cyfieithu Straeon y Pentan i’r iaith fain.
• Ailasesu’r syniad o Theatr yr Abswrd, symudiad a ddaeth i’w oed yn dilyn erchyllterau yr Ail Ryfel Byd ac a gynrychiolir orau yma yng Nghymru gan Gwenlyn Parry – Hannah Sams.
Mae yna ddigon yma, felly, i gnoi cil arno ond hoffwn fanteisio ar y cyfle i holi at bwy yn union yr anelir y gyfrol. Heb amheuaeth, fe ddylai apelio at y rhai mewn ysgol a choleg sy’n astudio’r Gymraeg, ond beth am y Cymry diwylliedig (ac mae yna rai ar ôl) na fu yn y sefydliadau hyn? A ydyw Ysgrifau Beirniadol iddynt hwy fel Cof Cenedl gynt i’r rhai oedd yn ymddiddori yn hanes Cymru? Wel ydyw, fe gredaf, i raddau helaeth beth bynnag. Ond byddai’n rhaid i’r darllenydd cyffredin ymgyfarwyddo â themâu a theorïau llenyddol er mwyn gwerthfawrogi rhai o’r erthyglau yn y gyfrol hon yn llawn.
Cyfweliad gydag M. Wynn Thomas sy’n cloi’r gyfrol. Yn y cyfweliad hwn mae awdur In the Shadow of the Pulpit yn galw arnom i geisio deall yn hytrach nac anwybyddu ein hetifeddiaeh anghydffurfiol. Yn wir, mae Tudur Hallam, yr holwr, yn cael ei herio i wneud astudiaeth drylwyr o’r pwnc! Tra bydd ef yn ystyried y dasg hon rhaid diolch iddo ef ac Angharad Price am eu gwaith yn golygu’r gyfrol hon.
Dafydd Morgan Lewis
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Tabl Cynnwys: Y Llythyr a’r Llyfr. Gohebiaeth George Sand a Gustave Flaubert, Kate Roberts a Saunders Lewis - Manon Mathias.
Marwnad Owain ab Urien - Marged Haycock
r/hanfodoli - Tudur Hallam
Trafferth Mewn Tafarn a’r gofod hybrid - Angharad Naylor
Dic yr Hendre, Y Bardd Llawryfog a Saunders - Peredur I. Lynch
Cyfieithu Daniel Owen: Gweithred Genedlaetholgar - Adam Pearce
Ailymweld â Theatr yr Absẃrd - Hannah Sams
Holi’r Athro M. Wynn Thomas - M. Wynn Thomas a Tudur Hallam Bywgraffiad Awdur: Cyfranwyr:
Tudur Hallam: Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ysgogwyd yr ysgrif gan gyfres o seminarau a draddodwyd i ddosbarth llenyddol yr Adran Addysg Barhaus i Oedolion yn Sgeti, Abertawe.
Marged Haycock: Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Peredur Lynch: Athro yn y Gymraeg a Phennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Manon Mathias: Darlithydd Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangor. Y nofel Ffrangeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw maes ei harbenigedd.
Angharad Naylor: Darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r ysgrif yn datblygu deunydd ei thraethawd PhD ar waith Dafydd ap Gwilym.
Adam Pearce: Mae wrthi'n cwblhau traethawd PhD ar gyfieithiadau o waith Daniel Owen. Ef yw cyfieithydd y fersiwn Saesneg cyntaf o Straeon y Pentan.
Hannah Sams: Myfyrwraig PhD (dan nawdd yr AHRC) yn Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Deillia'r ysgrif yn rhannol o'i thraethawd MA ymchwil ar waith Gwenlyn Parry a Theatr yr Absẃrd.
M. Wynn Thomas: Athro yn yr Adran Saesneg a deiliad Cadair Emyr Humphreys ym Mhrifysgol Abertawe. Gwybodaeth Bellach: Ymhlith pynciau’r gyfrol hon y mae’r canlynol: ● cymharu llythyrau Saunders Lewis a Kate Roberts â gohebiaeth George Sand a Gustave Flaubert ● cyflwyno ‘Marwnad Owain ab Urien’ i ddisgyblion chweched dosbarth ● trafod y syniad o ‘hanfod’ mewn llenyddiaeth Gymraeg gan roi sylw penodol i ddatblygiad tri bardd cyfoes ● archwilio’r ‘gofod hybrid’ yn un o gerddi Dafydd ap Gwilym ● gosod Dic Jones mewn perthynas â swydd y poet laureate yn Saesneg ● edrych ar rôl genedlaetholgar y cyfieithiadau Saesneg o waith Daniel Owen ● ail-asesu’r syniad o Theatr yr Absẃrd
Mae’r cyfranwyr yn gyfuniad o enwau newydd ac enwau beirniaid llenyddol sefydledig mewn sawl disgyblaeth wahanol, sef Manon Mathias, Marged Haycock, Tudur Hallam, Angharad Naylor, Peredur Lynch, Adam Pearce, Hannah Sams.
Cyflwynir y rhifyn hwn i'r Athro M Wynn Thomas, ac mae cyfweliad dadlennol rhyngddo ac un o’r golygyddion yn cloi’r gyfrol. |
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
Does dim Adolygiad Cwsmer, hyd yma, i'r llyfr hwn.
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|