Braint amheus oedd derbyn y gwahoddiad i adolygu’r gyfrol hon cans gwyddwn na allwn wneud cyfiawnder â chyfrol mor gyfoethog ei hawen. Pwy mewn gwirionedd a fyddai’n mynd ati i gwestiynu techneg a gweledigaeth Michelangelo o fardd?
Yr hyn a’m trawodd gyntaf oedd rhychwant y llais. Fel rheol, un gân estynedig sydd gan feirdd, a throi o gwmpas nodau honno a wnânt yng nghorff eu cerddi. Nid felly Alan Llwyd. Gellid tybio fod tri neu bedwar bardd gwahanol yn canu o dan ei enw.
Mae llais y bardd gwlad yma. Dathla gyda’i bobl yn eu llawenydd ac, ar achlysuron tristach, hiraetha am y rhai a gollwyd, yn lleol ac yn genedlaethol, mewn englynion neu gywyddau, gan gynnwys un nas gwelwyd o’r blaen i gofio Gerallt Lloyd Owen. A thrwy’r cyfan ni ellir llai na synhwyro seiniau cnul yr iaith Gymraeg ei hunan.
Clywais gwyno yn ddiweddar nad oes modd dod i adnabod nifer o’n beirdd modern drwy eu cerddi. Nid yw hyn yn wir am Alan Llwyd. Wrth iddo agor cloriau’r albwm teuluol, cyflwynir ni i aelodau’r llinach o’r ddau du. Daw’n amlwg hefyd fod y teulu agos yn bopeth iddo wrth iddo farddoni profiadau’r ŵyr a’r mab a droes, yng nghyflawnder yr amser, yn ŵr, yn dad ac yn daid. Unwaith eto canwyd y cyfan i gyfeiliant cyson yr hen gloc mawr teuluol.
Ar ben hynny mae’n fardd y ddynoliaeth gyfan. Fel academydd bu’n ymchwilio i hanes Hedd Wyn ac o ganlyniad daeth y Rhyfel Mawr ac erchyllterau’r holl frwydro a’i dilynodd yn ffynhonnell bwysig iddo. Mae’n arwyddocaol mai cerdd olaf y gyfrol yw englyn i Aylan Kurdi, y plentyn teirblwydd a olchwyd i’r lan wrth ffoi mewn cwch o Syria’n dyddiau ni.
Ychwaneger hefyd yr amrywiaeth o fesurau a ddefnyddir. Gan fod ei afael ar deithi’r iaith mor gadarn, mae’r cynganeddu yn dwyn ein hanadl. Wrth ddarllen ei gywydd coffa i’r bardd Gwilym Herber o Graig-cefn-parc, rhyfeddwn at bosibiliadau cynganeddol y gair ‘craig’, gyda ‘g’ fach neu ‘g’ fawr. Ceir yma hefyd sonedau moethus gyda’u hodlau dwbl ynghyd â cherddi penrydd sy’n gyforiog o gynghanedd.
O ystyried maint y cynnyrch, helaethrwydd y maes a gloywder y grefft, mae’n anodd meddwl am gyfrol arall o farddoniaeth i’w chymharu â hi.
Idris Reynolds
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Tabl Cynnwys: Cynnwys
Rhagair
Cyflwyniad gan yr Athro Tudur Hallam
Sonedau i Janice a Cherddi Eraill (1996)
Gŵr y Ffydd
Cofio Aberfan
Gwenlyn
Y Gwyliwr
Yr Ymwelydd
Gwyrth y Geni
Duw yng Nghrist
Herod
Geni'r Mab
Nadolig Dau Frawd
Nadolig Ioan
Ymson Mair wedi'r Croeshoeliad
Noswyl Nadolig
Hen Geffyl Siglo Dafydd
Noswyl Nadolig
Nadolig 1994
Mair a Joseff
Plethyn
Angharad Tomos
Branwen
Dyhead Tad
Bywyd
Plentyndod a Henaint
Pen-blwydd ac Angladd
Y Creyr Glas
Clychau'r Gog
Hydref a Mai
Gaeaf
Rhydwen
Norman Closs Parry
Gwyn Thomas
I Dewi Jones
Gwynfor Evans
Rhydwen yn Bedwar Ugain
Penglog Llywelyn
Tryweryn: Haf Sych 1976
Rhydwen
Er Cof am Monallt
Er Cof am Bernard Evans
Hywel Harries, yr Arlunydd
Cofio Roy Stephens
Er Cof am Stephen J. Williams
Er Cof am R. E. Jones, Llanrwst
Er Cof am Gyfaill Coleg
Telyn Cenedl
Pantycelyn
Er Cof am Tecwyn Lloyd
Er Cof am Bedwyr Lewis Jones
Colli Dau
Er Cof am Trefor Beasley
Er Cof am Gwladys Williams, Riffli, Llŷn
Coflech Hedd Wyn yn Fflandrys
Hedd Wyn
Morfydd Llwyn Owen
Plentyn Marw yn Llefaru
Gwydion y Cyfarwydd
Marwnad fy Mam
Clychau'r Gog
Mai 1994
Ar Garreg Fedd fy Mam
Gwraig yn Croesawu'i Gŵr
Nadolig 1995
Uwch Bedd fy Nhad: Hydref 1995
Gwilym R.
Y Llun
Fy Nhaid
Pontsiân
James Bulger
Er Cof am Sophie Bramhall
Alarch ar Lyn
Moses Glyn
Cynnau Canhwyllau
Anne Frank
Suzanne
Er Cof am Enid Morris
Islwyn Ffowc Elis
Gwanwyn Plentyndod
Plentyndod yn Llŷn
Ysgol Botwnnog: Llŷn
Gwlith y Nos ...
I Janice
Yr Ailuniad
Caitlin wrth Dylan
Hier Ruhen 5000 Tote
Cri Meirwon Auschwitz
Rhosyn Erin
Gwenllian, Merch Llywelyn
Er Cof am D. Gwyn Evans
Er Cof am Bob Edwards
Er Cof am Stephen Jones, Ponciau
Er Cof am E. Meirion Roberts: Arlunydd
Meini
Sonedau i Janice
Englynion i Luniau gan Marian Delyth:
Llun o Henwr
Llun o Ddwy Ferch Ifanc yn Protestio yn erbyn y Bom
Tresaith
Alarch ar Lyn â Llun Tai Ynddo
Ar Ddydd fy Mhen-blwydd
Gwynedd
Waldo
Morfydd Llwyn Owen
Ioan Hedd yn Ddeunaw Oed
Owain Rhys
Catrin
Cysegru'r Ffenestr
St Ives: Cernyw
I Janice
Tai
Ffarwelio â Chanrif (2000)
Y Llyn
Er Cof am Dylan Morris
Galar Rhieni
Er Cof am Eirian Davies
Gwasgaru Llwch
Er Cof am R. Tudur Jones
Er Cof am Donald Martin
Mathonwy Hughes
Er Cof am Anne Rees
Difa'r Dail
Blodau Pabi ym Medi
Du
Rhosyn yn Awst
Rhydwen
Ar Draeth y Mwmbwls
Dafydd yn Ddeunaw Oed
Arfon
Maen Coffa Waldo
Capel Coffa Cwm Celyn
Gweld trwy'r Cof
Ffenics y Llyn
Y Ddawns
Ymson Cai
I Ceri Wyn
Y Maen
Ymson Mair
Gwyrth y Nadolig
Dyngarwch
Wrth Fedd Waldo
I Gwilym Herber, Craig-cefn-parc
Eira yn Chwefror
Gwenllian, Merch Llywelyn
Er Cof am R. S. Thomas
Er Cof am Ellis Williams, Yr Ysgwrn
Ar Garreg Fedd Ellis
Er Cof am Lisa Erfyl
J. E. Caerwyn Williams
Gilbert Ruddock
Er Cof am Catherine Hughes
Er Cof am y Parch. Isaac Jones
John Tydu, y Cilie
Rhiannon
Y Brad
Dwy Gerdd ynghylch Hunaniaeth
Tri Bedd mewn Un Diwrnod
1. Bedd Caradoc Evans
2. Bedd Caradog Prichard
3. Bedd R. Williams Parry
Cofio Arfon
Hela Ffosiliau
Goroesiad Cenedl
Goroesiad Cenedl: Cantawd
Ffarwelio â Chanrif
1. Canrif Newydd Dda!
2. Blodau
3. Cân y Goroeswyr
4. Lleoedd
5. Awst 1914
6. Gassed: John Singer Sarjent
7. In Memoriam: 1914 – 1918
8. Meirwon y Rhyfel Mawr yn cyfarch eu mamwlad a'u mamau
9. Ar Gofeb y Rhyfel Mawr
10. Chaplin ac Eraill
11. All Quiet on the Western Front: 1930
12. Marwolaeth Lorca: 1936
13. Baled John Cornford: 1936
14. Kristallnacht: 1938
15. Disgrifiadau
16. Galar y Plant Amddifad
17. La Chute de L'Ange, Marc Chagall: 1923-1933-1947
18. Nighthawks, Edward Hopper: 1942
19. Ar Gofeb yr Ail Ryfel Byd
20. Nos Da, James Dean: 1955
21. Dallas, Tachwedd 22, 1963
22. Dyn ar y Lleuad: 1969
23. Phan Thi Kim Phuc: 1972
24. Dadorchuddio Cofeb Ryfel Fietnam: Washington 1982
25. Y Ddawns, Paula Rego: 1988
26. Hillsborough: 1989
27. Mur Berlin: 1989
28. Rhyfel y Culfor: 1990
29. Stephen Lawrence: 1993
30. Schindler's List: 1993
31. Tystiolaeth
32. Oedd, yr Oedd Amser i'r Ddawns
33. Camerâu
34. Ar Drothwy'r Milflwyddiant: Kosovo, 1999
35. Maen Coffa yr Ugeinfed Ganrif
36. Ffarwelio â'r Delweddau
37. Dyn yr Ugeinfed Ganrif
38. Y Ganrif Newydd
39. Mawl y Rhai Da
40. Ramallah, Palesteina, Hydref 12, 2000
Clirio'r Atig a Cherddi Eraill (2005)
Clirio'r Atig
Medi 11, 2001
Mae Hi'n Anodd
Nadolig 2001
Nadolig 2001
Ymbil ar Fair, Nadolig 2004
Y Ganrif Newydd
Yr Hogyn ar y Traeth
Y Ddwy Gloch
Y Bardd o'r Blaenau
Cofio Derwyn Jones
Er Cof am John Stoddart
Waldo
Er Cof am Tomos Gwyn
Trosglwyddo'r Rhifau
Dwylo
I Bobi
Clychau'r Gog, Gwanwyn 2001
Blodyn Dant-y-llew ym Mai
Ofnau Plentyndod
Traeth Cwmtydu ym Medi
Cân i Waldo
Lleuad Dyhead Dau
Afon a Bedw
Y Ddau Alarch ym Mharc Treforys
Y Fanhadlen yn Nhreforys
Cerddi Adar Drycin:
Rachel Roberts
Gwesty'r Wyth Llawenydd
Kitch
Winifred Wagner
Emlyn Williams
Er Cof am Richard Jones Llanfechell
Cofio Ysgolhaig
Er Cof am Sheila Jones
Gwynfor
Wyn
Ysgol Gyfun Newydd Cwm Rhymni
Cai, yn Blentyn
Wrth Edrych ar Fideo o'n Priodas
Gwallt Shelley
Emyn i Ann
Clirio'r Tŷ
Er Cof am J. Ieuan Jones
Gwen Ferch Ellis wrth ei Chyhuddwyr, 1594
Mynwent y Plant
Lladron Afalau
Delweddau o'r Amseroedd
Er Cof am Norah Isaac
Er Cof am Islwyn Ffowc Elis
I Dafydd Islwyn
Dadrith
Darnau o Fywydau (2009)
Wrth Ail-Greu Anghenion y Gynghanedd
Bardd y Ffin
I'r Tad John FitzGerald
Kyffin
I Ioan a Nicola
Y Genhedlaeth Goll
Er Cof am Valerie
Er Cof am R. J. Rowlands, y Bala
Wrth Lunio Fersiwn Newydd o’r Odliadur
Cerddi Celf a Chrefft
Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006
Muhammad Ali (Simon Holly)
Marilyn Monroe (Simon Holly)
Dŵr (André Stitt)
Y Fodrwy Organig (Carol Gwizdak)
Morfil ar y Traeth (Iwan Lewis)
Clo ar y Glwyd (Andrew Richards)
Traffig (Christine Shaw)
Dawnsio yn y Glaw (Suzanne Greenslade)
Gwilym Herber Williams
Croes Nanhyfer
Haf Colli Anwen
Carol: Yr Angel yn Llefaru wrth Fair
Lluniau Teuluol
Wrth Fynd Heibio i'r Tŷ Lle Buom yn Byw
Darluniau
Coeden y Cariadon
Gwenallt
Gwyn Thomas
Jon Meirion Jones
Dadrith
Terfysgaeth
Cofio fy Nhaid o Oes Terfysgaeth
Elaine
Er Cof am Kitty Williams
Er Cof am y Parchedig Gareth Maelor Jones
Cerddi heb Gael eu Cyhoeddi mewn Casgliadau
Gorffennaf Dedwyddaf Dau
I Siôn Elwyn yn Ddeunaw Oed
I Manon yn Ddeunaw Oed
Dau Fôr
I Gyfarch Gareth a Delyth ar achlysur eu priodas
Rhys Wyn
Elliw
Er Cof am Sian Owen
Gerallt
Tegfan
I Beti Watson
James
Lleihau y mae'r glaslanciau fesul un
Colli Gafael
Ymweld â Bwthyn Hardy
Ynof Mae Gorffennaf Mud
I Ffion
Ffion, yn Dair Oed
Chwythu Swigod
Rhag ofn na fyddi di yn cofio'r dydd
I Gyfarch Tal ac Iris Williams ar ddathlu eu priodas ddiemwnt
Eglwys y Carcharorion, Henllan
Y Fordaith
Y Cloc Mawr
Fontaine de Vaucluse
I Filwyr y Rhyfel Mawr
Er Cof: Iwan Llwyd
Er Cof: Geraint Bowen
Er Cof: John Davies
Er Cof: Meredydd Evans
Y Rhain
Fy Nhaid
Gwilym
Y Llofnod
Er Cof am Bryan Martin Davies
Aylan Kurdi Bywgraffiad Awdur: Mae'r Prifardd Alan Llwyd yn awdur toreithiog ac yn dal cadair bersonol yn Adran y Gymraeg, Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe. Bu'n olygydd y cylchgrawn Barddas yn ogystal â Golygydd Cyhoeddiadau Barddas o 1976-2011. Yn wreiddiol o Ben Llŷn, y mae wedi ymgartrefu yn Nhreforys, Abertawe ers blynyddoedd lawer. Cyhoeddwyd Cerddi Alan Llwyd: Y Casgliad Cyflawn Cyntaf 1968-1990 ganddo yn 1990. Gwybodaeth Bellach: Yn ei gyfwyniad i'r gyfrol, dywed Yr Athro Tudur Hallam, wrth gyfeirio at y cerddi newydd yn y casgliad hwn: 'Yn nifer o’r cerddi hynny, megis 'Y Fordaith' ac 'Ymweld â Bwthyn Hardy', clywn lais bardd sy'n boenus ymwybodol o rym amser a'i feidroldeb ef ei hun 'wrth i oed yr addewid / nesáu'. Fel y prawf y gerdd 'Eglwys y Carcharorion, Henllan', nid llais llwyr ddigalon ydyw'r un diweddaraf hwn, ond ar lawer cyfri llais anghysurus, hunllefus ydyw hefyd – llais y bardd a adawyd ar ôl, llais Aneirin, a llais y bardd digenedl, llais Gruffudd ab yr Ynad Coch. Yn sicr, mae’n ganu cwbl ysgytwol: Pwy fydd ein lladmerydd, mwy, a'r iaith ei hun ar drothwy dilead? A oleuwn eto i'n hiaith y tân hwn? Marwydos, Gymru, ydwyt; lludw oer fel Gerallt wyt. Yn y cywydd marwnad i Gerallt Lloyd Owen, fel yn y farwnad i Gwilym Herber ac i James, cyfaill ei fab, mae yma ganu gwirioneddol rymus sy'n llwyddo i gyfuno'r personol a'r dynol-oesol ynghyd. Wrth i feidroldeb eraill wasgu ar gorff, meddwl ac enaid y bardd, dyma ef ei hun, nid yn annhebyg i Guto'r Glyn yn ei henaint, yn canu rhai o'i gerddi mwyaf ysgytwol erioed. A dyma brofi o'r newydd y wefr honno sy'n nodwedd ar farddoniaeth fawr, megis yn y villanelle hyfryd, drist 'Lleihau y mae'r glaslanciau fesul un'. |