Eich basged
£134.81
Ewch i...
Gwerthwyr Gorau
Dolenni
|
Gwybodaeth Lyfryddol |
Pietà Gwen Pritchard Jones
|
|
Ceir yma hanes cynnar bywyd Maria Stella Petronilla yn Fflorens hyd at ei phriodas ag Arglwydd Newborough. Fe adroddir y cyfan drwy enau modryb Maria. Mae awyrgylch ardal Fflorens yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg i'w deimlo'n amlwg yma.
A new Welsh-language novel based on the autobiography of Maria Stella Petronilla, the Baroness of Ungern-Sternberg and Lady Newborough.
|
Cyn dod at y gyfrol hon doeddwn i erioed wedi clywed am Maria Stella Petronilla, Barwnes Ungern-Sternberg ac Arglwyddes Newborough, ac oni bai i mi wybod fod y nofel yn seiliedig ar stori wir, byddai’n anodd credu nad creadigaeth y dychymyg yw hi. Dyma hanes sy’n cynnwys melodrama, anghyfiawnder, creulondeb a thristwch yn ogystal ag ambell lygedyn o brydferthwch a chariad, a does ryfedd felly i Gwen Pritchard Jones seilio’i nofel hanesyddol ar yr hunangofiant a ysgrifennodd y wraig o Firenze ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Hanes plentyndod ac ieuenctid y ferch â’r llais fel eos a geir yn y nofel, gyda’r stori yn cael ei hadrodd gan hen wraig ar ei gwely angau sy’n ysu am gyffesu ei phechodau gerbron Duw a’r lleianod sy’n gofalu amdani ac yn cofnodi ei geiriau. Anna Maria Chappini yw hon, modryb Maria Stella, a’r unig un yn ei chartref a ddangosai unrhyw garedigrwydd yn ystod ei phlentyndod anodd, pan orfodai ei rhieni iddi ganu’n gyhoeddus a gwisgo esgidiau a staes haearn i atal ei thraed rhag tyfu’n rhy fawr ac i’w gwneud yn fwy gosgeiddig. Yn y nofel, portreadir ei mam yn gymeriad creulon tu hwnt, ond er ei fod rywfaint yn garedicach, roedd ei thad yntau’n ddigon bodlon ei gwerthu hi i bob pwrpas yn dair ar ddeg oed yn wraig i’r Arglwydd Newborough, Syr Thomas Wynn, oedd yn Aelod Seneddol dros rannau o ogledd Cymru, ac yn ddigon hen i fod yn daid iddi.
Ar un adeg, roedd nofelau hanesyddol yn boblogaidd iawn yn y Gymraeg, ond mae llai i’w gweld yn cael eu cyhoeddi bellach, ac yn sicr prin iawn yw’r cyfrolau sydd wedi’u gosod y tu allan i Gymru a’r cyd-destun Cymreig. Peth braf felly yw cael troedio llwybrau cynnes a llychlyd Firenze gan edmygu’r gweithiau celf yn yr eglwysi gydag Anna Maria a phrofi bywyd gwahanol iawn i’n treftadaeth ein hunain.
Mae’r awdur yn amlwg wedi ymchwilio’n drylwyr i hanes Maria yn ogystal ag arferion cymdeithasol yr oes, ac er mai cymysgedd o wirionedd a ffuglen yw’r gyfrol, mae’r stori’n argyhoeddi. Mae’r mynegiant yn syml a chlir ac er efallai nad yw angerdd Lladinaidd yr ardal yn neidio o’r tudalennau bob tro, mae’r cymeriadau’n gredadwy a chrwn. Nofel sy’n siŵr o apelio at ddarllenwyr sy’n mwynhau cerdded hen lwybrau hanes, ac un sy’n cyflwyno cymeriad hanesyddol lliwgar oedd â chysylltiad â gogledd Cymru yw hon. Dychymyg Gwen Pritchard Jones a greodd Anna Maria Chappini, sy’n adrodd y stori, ond megis dechrau mae stori Maria Stella Petronilla. Gyda dilyniant i’r nofel ar y gweill, mae’n argoeli’n stori gyffrous.
Catrin Beard
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council
|
Bywgraffiad Awdur: Un o Dalysarn, Dyffryn Nantlle yw Gwen Pritchard Jones. Mae bellach yn byw ym Mhantglas, Eifionydd. Bu’n gweithio mewn sawl maes ond bellach mae’n awdur llawn amser. Enillodd ei nofel gyntaf, Dygwyl Eneidiau, Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Abertawe a’r Fro 2006. Gwybodaeth Bellach: Nofel yn seiliedig ar hunangofiant Maria Stella Petronilla, Barwnes Ungern-Sternberg ac Arglwyddes Newborough.
Gwraig ganol oed grefyddol oedd wedi gadael ei gŵr – dyna ddisgrifiad cwta Maria Stella, Arglwyddes Newborough, o’r unig berson a ddangosodd garedigrwydd tuag ati yn ystod ei phlentyndod yn ninas Firenze yn yr Eidal.
Ond pam y buasai gwraig Gatholig, grefyddol, yn torri addunedau priodas a pheryglu ei henaid tragwyddol? A sut, wedi iddi gyflawni pechod mor arswydus, oedd hi i dderbyn maddeuant dwyfol ac osgoi treulio tragwyddoldeb yn uffern?
Ceir un esboniad yn y nofel hon, nofel sydd hefyd yn adrodd hanes rhyfeddol y gantores ifanc, Maria Stella, a’i phriodas â’r Arglwydd Newborough pan oedd hi ond tair ar ddeg oed, ac yntau dros ei hanner cant.
Dyma’r gyntaf o ddwy nofel sydd yn seiliedig ar hunangofiant Maria Stella Petronilla, Barwnes Ungern-Sternberg ac Arglwyddes Newborough. |
|
|
Anaml iawn y gellir dweud fod bywyd go iawn mor lliwgar â ffuglen, ond yn achos Maria Stella Petronilla, a briododd yr Arglwydd Newborough yn dair ar ddeg oed a fynta’n hanner cant, dyna yw’r gwir. A dyna oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer nofel newydd Gwen Pritchard Jones, Pietà, a gyhoeddir gan Wasg y Bwthyn.
Mae’r nofel hanesyddol hon yn seiliedig ar y disgrifiadau a geir o fywyd cynnar Maria yn ei hunangofiant, gyhoeddwyd ym Mharis yn 1830. Ynddo, cyfeiriai Maria Stella at fodryb ganol oed, grefyddol oedd wedi gadael ei gŵr. Er nad yw hyd yn oed yn rhoi enw iddi, mae’n cydnabod mai’r wraig hon oedd yr unig berson i ddangos caredigrwydd iddi yn ystod ei phlentyndod.
Cymeriad o’r enw Anna Maria Chiappini yw’r fodryb honno yn y nofel hon, ac ynddi cawn ymdrech i ddehongli pa ddigwyddiad erchyll fyddai’n ysgogi gwraig Gatholig i adael ei gŵr a mynd i fyw gyda’i brawd a’i deulu. Cawn hefyd ddisgrifiadau hanesyddol gywir o Dwscani ar ddiwedd y deunawfed ganrif, o flynyddoedd cynnar Maria Stella, a sut y bu iddi gwrdd â’r Arglwydd Newborough, gan ddod yn rhan o hanes stad Glynllifon a Chymru.
“Alla i ddim cofio’n union pryd y clywais i gyntaf am hanes rhyfeddol Maria Stella, ond roedd yn un o’r straeon roedd fy nhad yn adrodd wrth fy mrawd a minnau pan oeddem yng nghyffiniau Glynllifon a Llandwrog,” meddai’r awdures, sy’n wreiddiol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle ond bellach yn byw ym Mhantglas, Eifionydd.
Bu’r broses o ymchwilio ar gyfer y nofel yn un ddwys a pharhaol i’r awdur, ac fe aeth y gwaith a hi o’r Eidal i Baris ac o’r Llyfrgell Brydeinig i Archifdy Gwynedd, ble mae papurau stad Glynllifon yn cael eu cadw, ar drywydd Maria Stella.
Mae’r awdures bellach yn torri cwys i’w hun mewn nofelau hanesyddol, gan fod ei nofel gyntaf Dygwyl Eneidiau, enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Abertawe a’r Fro 2006, hefyd yn defnyddio hanes fel man cychwyn.
“Mi fydda i wrth fy modd gyda hen greiriau, yn ceisio dyfalu pwy oedd y bobl a’u defnyddiodd, sut fywydau oedd ganddyn nhw ac ati. Cam ymhellach yw ceisio dyfalu sut fywydau oedd gan bobl mewn gwahanol gyfnodau hanesyddol, beth oedd y dewisiadau oedd gan bobl o fewn eu hamgylchiadau, a beth oedd y dylanwadau arnynt. Mae’r cyfan fel rhyw fath o jigsô yn fy meddwl, a chaf hwyl yn ceisio rhoi’r cyfan at ei gilydd i geisio creu cyfanwaith sy’n gredadwy a diddorol, a phlethu digwyddiadau hanesyddol â bywydau’r bobl yn fy nofelau.”
Meddai Geraint Lloyd Owen o Wasg y Bwthyn “Mae Gwen yn ei seithfed nef pan mae’n ymchwilio ac yn cloddio oddi fewn i ffiniau hanes. Hynny yw, mae hi’n hanesydd wrth reddf, ac fe welir yma drwy ffrwyth ei dychymyg a’i dawn y modd y llwyddodd i droi stori noeth yn ddarn o lenyddiaeth gan godi’r cyfan uwchben a thu hwnt i hualau hanes.” |
Diweddarwyd ar 08 Mawrth 2011
|
Mae'r teitl yma yn y categori a/neu is-gategori canlynol:
|
"This is a great novel - captivating from the first page to the last - rich in suspense and description. One feels as if one is running down the hill from Fiesole to Florence with the aunt. This would make a great film. I can't wait for the second book and this is certainly a good candidate for translation into English and other languages."
|
|
|
|
Rhagor o Deitlau
Fe wnaeth pobl wrth brynu'r teitl hwn hefyd brynu'r canlynol:
|
Llyfr y Mis
|