Your basket
Total £134.81
Go to...
Best-selling Books
Links
|
Bibliographical Information |
Twll Bach yn y Niwl Llio Maddocks
|
ISBN: 9781784619565 (1784619566)Publication Date: November 2020
Publisher: Y LolfaFormat: Paperback, 195x132 mm, 250 pages
Language: Welsh
Available Our Price:
£8.99
|
|
There are no Customer Reviews for this title.
|
|
Lowri has had enough of her village, unemployment, young men, the local pub, and even her friends sometimes. Together with family problems, Lowri's life is dull. But is there a flicker of hope through the mist? A caustic novel about friendship and coming of age, about adults behaving as children, with strong language and imagery for adults only.
Mae Lowri wedi cael llond bol oi phentref, oi diffyg swydd, o hogiau, oi ffrindiau weithiau, ac or dafarn leol. Yn ogystal â phroblemau teuluol, mae bywyd Lowri yn ddiflas. Ond oes llygedyn o obaith drwy'r niwl? Nofel gignoeth am gyfeillgarwch a thyfu i fyny; am fod yn oedolion syn dal i fihafio fel plant. Mae'n cynnwys iaith gref a golygfeydd ar gyfer oedolion yn unig.
|
Nofel am Lowri, merch ifanc sy’n byw mewn pentref pawb-yn-nabod-pawb yng ngogledd Cymru, yw Twll Bach yn y Niwl, nofel gyntaf Llio Elain Maddocks. Mae’r nofel wedi ei hysgrifennu yng Ngwyndodeg hyfryd yr awdur, sy’n hanu o Lan Ffestiniog. Os ydych chi, fel fi, yn ffan o Insta-gerddi gwych yr awdur, rwy’n hyderus y gwnewch chi fwynhau’r nofel hon.
Mae’r nofel yn dechrau’n dwyllodrus o syml ac ysgafn. Dysgwn o’r dechrau fod Lowri wedi diflasu ar ei bywyd yn y pentref. Mae ei bywyd carwriaethol yn llanast llwyr. Caiff ei dympio’n ddisymwth gan Anthony – ei chariad ers saith mlynedd – dros bryd siomedig (a sarhaus) o basta. Mae Dafydd – yr hogyn y bu hi’n cyboli ag ef tra oedd Anthony yn Awstralia – yn ei thrin fel baw ac yn annhebygol o adael ei gariad. Mae hi’n ddi-waith ac yn ymgeisio am swyddi nad ydynt o ddiddordeb iddi o gwbl. Hoffai wneud PhD ond dydi hi ddim yn teimlo’n ddigon clyfar. Ac fel llawer o bobl ifanc sydd wedi dychwelyd adref i’w cymunedau cysglyd ar ôl graddio o’r brifysgol, mae Lowri’n ymdrybaeddu mewn ennui ac angst, yn cicio’i sodlau ac yn treulio gormod o amser yn y dafarn efo ffrindiau sydd hefyd yn yr un twll. Mae hi mewn rhigol ac angen newid byd. Gŵyr Lowri ei bod hi yn y niwl yn llwyr ac nid yw’n medru gweld unrhyw oleuni drwyddo – mae’n gwbl anhreiddiadwy. Ond sylweddola erbyn y diwedd mai hi yn unig a all glirio’r niwl sy’n ei rhwystro rhag symud yn ei blaen.
Er bod y nofel yn dechrau ar nodyn ysgafn, mae’r awdur yn plannu themâu dwys drwyddi draw, fel hadau bach sy’n galluogi i’r nofel ddatblygu a thyfu’n stori sy’n fwy dirdynnol na hanes troeon trwstan a bywyd carwriaethol trychinebus merch ifanc. Yn wir, roedd y dagrau’n powlio i lawr fy ngruddiau tua’r diwedd.
Mae’r awdur yn disgrifio ei hun fel ‘rêl milenial’, ac fel milenial fy hun, rwy’n medru uniaethu ar sawl lefel â’r prif gymeriad. Ond i’r sawl nad ydynt yn perthyn i’r genhedlaeth avo-ar-dost, rwy’n hyderus y gwnewch chi fwynhau’r nofel lawn cymaint ag y gwnes i. Mae Twll Bach yn y Niwl yn nofel ddarllenadwy, lawn hiwmor sy’n pendilio’n gelfydd rhwng y llon a’r lleddf. Darllenwch!
Non Mererid Jones
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Books Council of Wales.
|
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
|
There are no Customer Reviews so far for this title.
|
|
|
|
More Titles
People who bought this title also bought the following:
|
Book of the Month
|