Home Books Basket Checkout My Account Help Special Offers Contact us   Cymraeg  
 
Find a Bookshop
 
Sign In
 
Register
Bibliographical Information
Mae Pawb yn Cyfrif
Gareth Ffowc Roberts
ISBN: 9781848515116 (1848515111)Publication Date: August 2012
Publisher: Gomer@Atebol
Format: Paperback, 180x130 mm, 182 pages Language: Welsh Available Our Price: £9.99 
Customers' average rating:
 
Write a Customer Review
 
Read Reviews...
A thought-provoking book about our relationship with mathematics.

Cyfrol ddiddorol am fathemateg yw hon, ond mae hi hefyd yn gyfrol am bobl a'u perthynas â rhifau. Dyma lyfr anarferol o ran ei bwnc ond un sy'n berthnasol i bob un ohonom. A wyddech chi fod Kate Roberts yn dipyn o fathemategydd? A beth am ein system ni o gyfrif yn Gymraeg – ydy hyn yn ein gwneud ni'n wahanol i bobl eraill?
Ddim yn hoffi mathemateg? Dyma’r gyfrol i chi! Dyna ddywed y broliant. Onid yw’r awdur wedi gosod targed amhosibl iddo’i hun gan iddo hawlio hefyd fod hon yn gyfrol i’r rhai sy’n hoffi mathemateg. A yw wedi syrthio rhwng dwy stôl cyn cychwyn, felly?

Newyddion da i’r garfan gyntaf i ddechrau – does yna ddim gormodedd o fathemateg yma i godi braw ar neb. Does yma'r un fformwla i’w gweld rhwng y cloriau – dim mwy na rhifau ac ychydig o geometreg. Prin fod angen mwy o grebwyll mathemategol na’r hyn a geir yn yr ysgol gynradd. Ar yr olwg gyntaf, felly, does dim byd newydd yn y llyfr hwn i ddenu'r mathemategydd profiadol.

Ond yn rhyfeddol, mae yna rywbeth i bawb yma. Mae’n gyfrol unigryw. A fentrodd unrhyw awdur i ysgrifennu am fathemateg yn Gymraeg o'r blaen, gyda'r nod o greu llyfr poblogaidd ar y pwnc? Trwy drugaredd, mae digonedd o werslyfrau ar fathemateg i ddisgyblion ysgol Cymraeg eu hiaith erbyn hyn.

Mae’r penodau cyntaf yn ymdrin â’r profiadau gafodd yr awdur pan oedd yn ymgynghorydd mathemateg, felly mae'r rhain yn brofiadau go iawn gyda phlant go iawn. Mae rhai plant yn arddangos dawn arbennig yn y pwnc ac yn cael pleser; un yn athrylith o’r dechrau. Eraill, fel llawer o’u rhagflaenwyr, yn cael peth trafferth. Pam mae hynny’n wir? A yw rhai wedi'u geni â'r genyn anghywir? Pam mae cyn lleied o ferched yn arbenigo yn y pwnc? Ai bai dulliau dysgu ac agwedd cymdeithas yw’r cyfan? Trwy ddefnyddio nifer o enghreifftiau diddorol, mae’r awdur yn ymrafael â’r cwestiynau yma i gyd. Y pwyslais mawr yw cael pawb i ddeall y cysyniad, ac mae sawl ffordd o gyrraedd y ddealltwriaeth honno.

Un o’r penodau mwyaf diddorol yw’r un am y Cymro Robert Recorde, o Ddinbych-y-pysgod (1510?–1558); ei fam, Ros Johns yn ferch i Thomas ap Sion o Fachynlleth. Roedd Recorde yn enwog am gyflwyno'r symbol = i fathemateg. Ond yn llawer mwy arwyddocaol, ef oedd y cyntaf i ysgrifennu llyfr ar fathemateg yn Saesneg; bu'r cyfan yn Lladin neu Roeg ac wedi ei anelu at y teuloedd cyfoethocaf cyn ymddangosiad gwaith Recorde. Ysgrifennodd bump o lyfrau, y cyntaf ohonynt ar rifyddeg – llyfr a fu mewn print am 150 o flynyddoedd. Hobi i lenwi amser hamdden Recorde oedd creu'r rhain. Mae stori fawr i’w dweud amdano. Bu farw yn y carchar am resymau gwleidyddol, ac mae’n werth darllen y llyfr dim ond i gael cyflwyniad i’r dyn arbennig yma. Dylai gwybod amdano fod yn rhan o addysg pob plentyn yng Nghymru.

Pennod arall arbennig yw’r un ar y mathemategydd o Fôn, William Jones, a gyflwynodd y symbol π, sef y gymhareb cylchedd/diamedr cylch, yn 1706. Fel ei ragflaenydd Recorde, ni wnaeth Jones unrhyw waith gwreiddiol yn y pwnc. Ei gamp oedd cyflwyno mathemateg yn Saesneg.

Mae digonedd yn y gyfrol a ddylai fod at ddant pawb hefyd, megis ein ffordd o gyfrif yn ugeiniol yn Gymraeg, dull sydd bron yn unigryw; y rheidrwydd o ddefnyddio’r ffurf ddegol os am wneud ein symiau drwy’r Gymraeg; hanes ein cyd-Gymry yn y Wladfa a oedd yn llawer mwy blaengar na ni wrth ddysgu rhifyddeg drwy’r Gymraeg, trwy waith arloesol R. J. Berwyn; palindromau a phatrymau eraill ymysg rhifau; hanes yr anhygoel Ramanujan o’r India a’i ddarganfyddiadau pellgyrhaeddol mewn mathemateg ac yntau heb addysg brifysgol; a mathemateg y Maiaid. Dyna rai o’r pynciau, a'r cyfan wedi'i gyflwyno yn fywiog a syml.

Mae Mae Pawb yn Cyfrif yn llyfr amserol iawn wrth i ni glywed am gynllun newydd y Llywodraeth i godi safon rhifedd plant Cymru, a chyda’r Nadolig yn nesáu, mae'r gyfrol hon yn anrheg ddelfrydol i unrhyw un sy’n dysgu mathemateg, boed yn ddisgybl neu’n athro cynradd neu uwchradd. Dyma lyfr cefndir gwych sy’n dangos bod llawer iawn mwy i fathemateg na'r hyn a ddysgir yn ffurfiol yn yr ysgol. Y gobaith yw y bydd yn help i ddatblygu agwedd llawer iawn iachach a mwy positif tuag at y pwnc.

Dyma ddarllen hawdd. Mae arddull fyrlymus a bywiog yr awdur yn hwyluso hynny. A gafwyd llyfr ar fathemateg y gellid ei ddarllen ar un eisteddiad erioed o'r blaen? Go brin; dyma lyfr hynod afaelgar.

Alun Morris

Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
Author Biography:
Bu Gareth Ffowc Roberts yn Athro a Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor ac yn Ymgynghorydd Mathemateg i Gyngor Sir Gwynedd. Mae ar dân dros boblogeiddio mathemateg.
Further Information:
Ddim yn hoffi mathemateg? Dyma'r gyfrol i chi!
Hoffi mathemateg? Dyma'r gyfrol i chi!
Wedi'r cwbl, mae pawb yn cyfrif!

Cewch ddarganfod sut y mae eich rhyw yn effeithio ar eich gallu i rifo. Go iawn!

A sut fyddwch chi'n cyfrif? 'Deuddeg' neu 'un deg dau'? Mae hynny'n dweud llawer iawn amdanoch ...

Am y tro cyntaf erioed dyma drafodaeth unigryw ar agweddau cyfoes y Cymry at rifau a rhifo.

Nid oes gan fathemateg le naturiol yn y diwylliant Cymreig - yn wahanol i farddoniaeth, crefydd, a cherddoriaeth. Ond bydd y gyfrol hynod wreiddiol hon yn siŵr o'ch perswadio nad oes dim Cymreiciach na mathemateg!
This title is categorised and/or sub-categorised as follows:
Dafydd from Llandudno rated this title and wrote:
"Gyda dyfodiad y Kindle, dywedodd rhywun ar y radio yn ddiweddar fod poblogrwydd y stori fer fel cyfrwng yn mynd i gynyddu. Gellir darllen y llyfr hwn naill ai fel nofel, neu droi ato ar eich ffordd i'ch gwaith a darllen unrhyw bennod sy'n dal eich sylw, a darllen honno fel stori fer. Pa bynnag ffordd y trowch at y llyfr fe brofwch wefr o syndod a theimlo cynhesrwydd yr awdur tuag at swyddogaeth mathemateg yng Nghymru; ei hanes a'i diwylliant. Yn wir, fe welwch fel mae cyfrif yn rhan annatod o'n bywydau, waeth pa mor agos bynnag yr ydym i fyd rhifau - oedd 'na drafferthion ar gyffordd dau ddeg neu gyffordd ugain heddiw? Wrth ddarllen, roeddwn yn canfod fy hunan yn cael fy synnu, fy ngogleisio a'm difyrru gan arddull gartrefol y llyfr a'i gynnwys o hanes a diwylliant, yn ogystal â’n bywyd bob dydd yma yng Nghymru. Nid llyfr i fathemategwyr yw hwn; na, dyma lyfr i'r darllenydd cyffredin sy'n hoffi cael ei ddiddori gan frwdfryddedd awdur sy'n fwrlwm o sylwadau ac yn aml yn mynnu'r ymateb, "Ewadd, doeddwn i dim yn gwbod hynna o'r blaen!" Ie, llyfr difyr ar y naw."
 
More Titles
People who bought this title also bought the following:
Cyfres Alun yr Arth: Alun ...
Morgan Tomos
£2.95
 
Buy Now
Cwm-Rhyd-y-Rhosyn ­ ...
Dafydd Iwan
£5.99
 
Buy Now
Count Us in - How to Make ...
Gareth Ffowc Roberts
£8.99
 
Buy Now
Book of the Month
English
Melting Pot, The - World ...
Maggie Ogunbanwo
£9.99
 
Buy Now
Welsh
Rhwng Dau Olau
Ifor ap Glyn
£7.90
 
Buy Now
Children
Cyfres Cyw: Bolgi a'r ...
Anni Llŷn
£3.95
 
Buy Now