Ar yr wyneb, nofel am dad a merch yn dod i adnabod ei gilydd am y tro cyntaf yw Rhyd y Gro. Adroddir y stori’n gelfydd yn y person cyntaf, gyda phennod gan Efa a Steffan bob yn ail, ran amlaf yn disgrifio neu'n ymateb i'r un digwyddiad. Mae’r stori’n gadarn a’i hadeiladwaith yn glir. Mae Efa yn disgwyl plentyn ac ar yr un pryd yn cael gwybod enw ei thad am y tro cyntaf. Aiff y ddau drwy’r broses o ddod i adnabod ei gilydd, yn eu ffyrdd eu hunain. Ond drwy eu hymateb down i adnabod nid yn unig Efa a Steffan ond Meic a Sali, eu partneriaid, yn ogystal, ac fe geir hefyd ddarlun o’r pedwar oedd yn byw yn Rhyd y Gro (sef enw'r tŷ) pan genhedlwyd Efa.
Creodd Sian Northey gymeriadau difyr ac enigmatig. Etifeddodd Efa beth o natur rydd a phenderfynol ei mam, fel y dengys y stori wrth fynd rhagddi. Yn yr un modd, etifeddodd rai o nodweddion Steffan yntau. Enaid sensitif yw hwnnw sydd wedi arfer ei amddiffyn ei hun o'i gragen unig, ac mae ei berthynas â'i gath Llwydrew yn ddarlun effeithiol o hynny. Mae ar Steffan angen cwmni ac agosatrwydd, ond Llwydrew yw'r cwmni hwnnw, a chath yw hi, y mwyaf annibynnol o’r creaduriaid. Mae’n stori gref wedi ei hadrodd yn ddeheuig.
Ond mae mwy i Rhyd y Gro na’r stori arwynebol. Mae Sian Northey wedi creu nofel haenog, hynod o ddiddorol. Yng nghanol y penodau gan Efa a Steffan, y mae ambell bennod wedi'i llunio mewn ffont hen ffasiwn, megis gan deipiadur, yn dwyn y teitl 'Rhyd y gro'. Penodau wedi'u sgwennu yn y trydydd person yw’r rhain, lle rhoddir darlun gwahanol o ambell ddigwyddiad a pherthynas yn Rhyd y gro. Steffan yw'r awdur – ef yw perchennog yr unig deipiadur yn y tŷ – ac efallai mai ef yw cofnodydd y digwyddiadau, ond nid oes sicrwydd o hynny. Dyma lle y ceir cymhlethdod cynnil y stori, ac er bod rhai disgrifiadau clir iawn am fywyd yn Rhyd y gro, mae’r hanes yn llawn dirgelwch hefyd. Lora yw’r cymeriad sydd â'i thraed ar y ddaear, y symlaf o’r pedwar, ond y mae Rhydian, Steffan a Carys (mam Efa) yn llawn corneli tywyll a dirgel. ‘Stori yw’r gorffennol a’i chartref yw’r cof,’ medd y broliant ar gefn y gyfrol, gan ychwanegu, ‘yr ydym yn gwau edafedd y gorffennol ynghyd i greu ein storïau bratiog ein hunain’, a dyma’r elfen ddiddorol sydd yn llifo drwy’r nofel. Yr hyn y mae Steffan ac Efa yn ei wneud yw nid yn unig gwau yr edafedd ond dewis ambell edau a cheisio anwybyddu edau arall, a chreu stori sydd yn eu hamddiffyn ac yn eu gwarchod.
Ond ar waethaf yr ymdrechion unigolyddol mae pobl a pherthynas yn drysu’r ymdrechion, yn enwedig pan enir Now, plentyn Efa. Tua diwedd y nofel nodir bod Steffan, sydd yn awdur, wedi dechrau ysgrifennu ffuglen yn hytrach na chofiannau, ac yn mwynhau cael ei ryddhau oddi wrth ffeithiau parhaus. Mae Sian Northey yn awdures sydd yn awgrymu rhai pethau yn hytrach na’u dweud, dawn sydd yn gwneud hon yn nofel liwgar a difyr i’w darllen.
John Roberts
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.
|
Author Biography: Yn wreiddiol o Drawsfynydd, mae Sian bellach yn byw ym
Mhenrhyndeudraeth. Er mawr syndod iddi mae'n llwyddo i ennill bywoliaeth trwy ysgrifennu, cynnal gweithdai a chyfieithu. Further Information: Stori yw'r gorffennol a'i chartref yw'r cof. Dyma hanes Efa a Steffan, merch a thad, dieithriaid, i bob pwrpas, sy'n dod i adnabod ei gilydd yn ystod cyfnod dwys ym mywydau'r ddau. Ond mae cymeriadau eraill yn llechu ar y cyrion, rhai arwyddocaol o ieuenctid Steffan − Carys (mam Efa), Lora a Rhydian Gwyn, y mwyaf enigmatig ohonynt. A beth tybed yw pwysigrwydd y pethau a ddigwyddodd yn Rhyd y Gro, y tŷ a fu'n gartref i'r pedwar ffrind? Yn y nofel deimladwy, synhwyrus hon mae Sian Northey yn edrych ar gariad a cholled ac ar sut yr ydym yn gwau ynghyd edafedd y gorffennol i greu ein storïau bratiog. Dyma'r ail nofel i oedolion gan yr awdures dalentog hon. Denodd ei nofel gyntaf, Yn y Tŷ Hwn, ganmoliaeth uchel iawn. |